Yn 18 mlwydd oed, Sera oedd y cystadleuydd ieuengaf yn rownd derfynnol Canwr Ifanc Rhyngwladol y Flwyddyn, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Graddiodd gyda Rhagoriaeth o RWCMD ac yno enillodd wobrau Dolan Evans ac Aneurin Bevan. Derbyniodd ysgoloriaeth i astudio'n bellach yn y Royal Academy of Music, a perfformiodd mewn dosbarthiadau meistr gyda Syr Thomas Allen, Barbabra Bonney ar diweddar Robert Tear ac amlygu ei hun yn gerddor llwyddiannus. Derbyniodd ysgoloriaethau gan S4C ac James Pantyfedwen ac mae ganddi nifer o wobrau a dyfarniadau canu megis Gwobr John Ireland, Gwobr Soprano Blodwen Cosslett, Dyfarniad Maida Jones, Dyfarniad Alfred Alexander a Gwobr y Gynilleidfa yn Canwr Cymraeg y Flwyddyn Llundain
Agorodd Sera adain Neuadd Shakespeare yn y Galeri Cenedlaethol drwy roi datganiad o ganeuon Shakespearaidd a perfformiodd yn blaenberfformiad Byd o waith Benjamin Till The Pepy's Motet ynghyd a gwneud recordiad o'r gwaith.
Derbyniodd Sera Ddyfarniad y Sickle Foundation yn 2010 ag enillodd y wobr Soprano yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2011, ac hefyd sicrhau lle yn rownd derfynnol Y Rhuban Las/Gwobr Goffa David Ellis. Byw yn Llundain mae Sera ond fe fydd hi’n dod adref adref i Ogledd Gymru mor aml â phosib.